Grŵp Trawsbleidiol ar Nyrsio
Cofnodion cyfarfod 4 Mawrth 2014
Yn bresennol
Aelodau'r Cynulliad
Rebecca Evans (Cadeirydd) Llafur Cymru
Jeff Cuthbert Llafur Cymru
Kirsty Williams Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Aled Roberts Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Elin Jones Plaid Cymru
Cyfarwyddwyr Nyrsio / Eraill
Helen Whyley Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru ar ran y Gweinidog
Rhiannon Beaumont-Wood Cyfarwyddwr Nyrsio, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ruth Walker Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Caerdydd a'r Fro
Lynda Williams Cyfarwyddwr Nyrsio, Cwm Taf
Denise Llewellyn Cyfarwyddwr Nyrsio, Aneurin Bevan
Siaradwyr
Neil Evans Nyrs Adran Achosion Brys, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Kelly Downes Rheolwr Gwella Diogelwch Cleifion
Aelodau'r Bwrdd
Gaynor Jones Cadeirydd
Staff Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Tina Donnelly Cyfarwyddwr
Peter Meredith-Smith Cyfarwyddwr Cyswllt (Cysylltiadau Cyflogaeth)
Lynne Hughes Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus
John Hoddinott Cynorthwy-ydd Polisi a Materion Cyhoeddus
Ymddiheuriadau
Aelodau'r Cynulliad
Bethan Jenkins Plaid Cymru
Gwenda Thomas Llafur Cymru
David Melding Ceidwadwyr Cymreig
Simon Thomas Plaid Cymru
Lindsay Whittle Plaid Cymru
Edwina Hart Llafur Cymru
Gwenda Thomas Llafur Cymru
David Melding Ceidwadwyr Cymreig
Lynne Neagle Llafur Cymru
Huw Lewis Llafur Cymru
Carwyn Jones Llafur Cymru
Jocelyn Davies Plaid Cymru
Vaughan Gething Llafur Cymru
Carl Sargeant Llafur Cymru
Angela Burns Ceidwadwyr Cymreig
Darren Millar Ceidwadwyr Cymreig
David Rees Llafur Cymru
Cyfarwyddwyr Nyrsio / Eraill
Caroline Oakley Cyfarwyddwr Nyrsio, Hywel Dda
Carol Shillabeer Cyfarwyddwr Nyrsio, Powys
Jean White Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru
Sue Morgan Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ymddiriedolaeth GIG Felindre
Nicola Ryley Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio, Aneurin Bevan
Angela Hopkins Cyfarwyddwr Nyrsio, Betsi Cadwaladr
1. Croesawodd Rebecca Evans AC bawb i'r cyfarfod.
2. Cynllunio’r Gweithlu yn y GIG
Cyflwynodd Peter Meredith Smith y sesiwn (mae’r sleidiau ynghlwm).
Trafododd Neil Evans, Nyrs Adran Achosion Brys, a Kelly Downes, Rheolwr Diogelwch Cleifion, y pwysau y mae nyrsys ar y rheng flaen yn eu hwynebu.
Pwyntiau allweddol a drafodwyd yn y fforwm agored:
· Cafwyd cydnabyddiaeth fod nyrsys yn gweithio'n hynod o galed, ond ei bod yn anodd iddynt roi'r gofal gorau posibl. Mae nifer fawr o gleifion ac mae ganddynt anghenion mwy cymhleth nag erioed.
· A oes gan y GIG yng Nghymru nifer ddigonol o nyrsys a nyrsys sydd â'r cyfuniad cywir o sgiliau?
· Mae'n anodd i nyrsys gael cyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol yn barhaus (yn enwedig yng Nghymru – gweler canlyniadau arolwg cyflogaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol).
· Adborth ynghylch byrddau iechyd lleol - mae'r staff sydd i ffwrdd yn sâl, sydd wedi eu hatal rhag gweithio neu sy'n fyfyrwyr nyrsio wedi'u cynnwys yn ffigurau swyddogol y byrddau iechyd lleol o'r 'nyrsys sy'n gweithio' .
· Mae angen i ni edrych ar ddibyniaeth y cleifion ar y ward / yn yr adran yn hytrach na dim ond ar nifer y nyrsys. Ni ddylai'r nifer isaf o nyrsys sydd eu hangen fod yn rhif safonol cyffredin. Mae angen i arweinwyr nyrsys allu defnyddio eu barn broffesiynol a gofyn am ragor o staff os bydd angen. Mae angen i'r nyrsys sy'n gyfrifol am wardiau gael y gallu i redeg eu wardiau.
· Defnyddio staff sy'n perthyn i asiant neu gronfa staff - nodwyd bod staff dros dro yn gallu mynd i'r afael ag anawsterau staffio yn y tymor byr. Cafwyd cydnabyddiaeth fod anfanteision sylweddol i ddibynnu ar staff dros dro yn yr hirdymor, gan gynnwys costau uwch a bod y staff dros dro yn anghyfarwydd ag amgylchedd y ward, ei gleifion a'r staff parhaol.
· Mae'r gost i nyrsys unigol o ganlyniad i bwysau llwyth gwaith yn bwysig. Nodwyd, ar hyn o bryd, ein bod yn caniatáu i'n nyrsys orweithio.